Operation Grebe
|
||
|
|
||
|
||
|
Ymgyrch Grebe |
||
|
'Dewch o hyd iddo. Rhowch wybod amdano. Rydyn ni ar y trywydd iawn' yw ein hymgyrch gyhoeddus sydd â'r nod o fynd i'r afael â defnyddio beiciau anghyfreithlon, gan gynnwys beiciau trydan a beiciau oddi ar y ffordd, ledled De Cymru. Mae'r ymgyrch yn annog cymunedau i roi gwybod am y defnydd anghyfreithlon o feiciau, gan sicrhau'r cyhoedd hefyd fod hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel i Heddlu De Cymru. Rydym yn gwybod bod camddefnyddio'r cerbydau hyn yn cael effaith sylweddol ar gymunedau lleol, ac rydym yn cymryd camau rhagweithiol i fynd i'r afael â'r mater ar draws ardal yr heddlu. Bydd yr ymgyrch gyhoeddus i’w gweld ar draws ardal yr heddlu drwy hysbysebion wedi’u targedu mewn mannau cyhoeddus amlwg (arosfannau bysiau, byrddau hysbysebu ac ati) ac ar-lein drwy gyfryngau cymdeithasol a gwefan Heddlu De Cymru. 🔗 Anogir y cyhoedd i ddefnyddio'r offeryn adrodd drwy'r wefan i helpu i ddarparu gwybodaeth leol i'n timau plismona er mwyn iddynt allu mynd i'r afael â defnyddio'r beiciau hyn yn effeithiol. | ||
Reply to this message | ||
|
|






